
Cystadleuaeth Ffotograffiaeth 2025
Eleni mae gennym gystadleuaeth ffotograffiaeth.
​
Mae'r gystadleuaeth wedi cau.
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
Cyhoeddir enwau'r enillwyr a'r rhai sy'n dod yn ail yn y categorïau ifanc ac oedolion yn Ionawr 2026.
​
Y dyddiad cau oedd 1 Tachwedd am hanner dydd.
​
​
​
​
​​
​
​

Cynllun Gwobrau
Mae'r cynllun Gwobrau yn rhedeg ers dros ugain mlynedd. Cyflwynir y Gwobrau fel arfer bob dwy flynedd, i ddathlu rhagoriaeth mewn ymdrechion lleol.
​
Mae'r Gymdeithas wedi rhoi gwobrau i lawer o brosiectau, mawr a bach. Er enghraifft, rhoddwyd gwobrau am adfer a chadw adeiladau traddodiadol, creu ffin cae yn llawn nodweddion cyfoethog, cynllun adnewyddol a chyfleusterau cymunedol.
​
Rydym angen eich cymorth. Os ydych yn gwybod am brosiect yr ydych yn gredu sy'n haeddu gwobr, buasem yn ddiolchgar pe baech yn cysylltu â ni. Gall unrhyw un enwebu prosiect (gyda chaniatâd y perchennog).
​
​






Byrddau Dehongli Dyffryn Conwy
Mae'r Prosiect yn golygu gosod byrddau dehongli mewn saith o'r naw gorsaf rheilffordd yn Nyffryn Conwy, i roi gwybodaeth cyffredinol i ddefnyddwyr y rheilffordd, yn bobl leol ac yn ymwelwyr. Bydd y byrddau'n cynnwys gwybodaeth am dreftadaeth ddiwylliannol ac adeiledig yr ardal, diddordeb bywyd gwyllt ynghyd â chyfleoedd i bawb gael mynediad at yr awyr agored.
Gobeithiwn y bydd yn caniatáu i ddefnyddwyr y rheilffordd gael gwell gwerthfawrogiad a mwynhad o Ddyffryn Conwy a gwneud hynny mewn ffordd fwy gynaliadwy.
Os oes gennych unrhyw syniadau am gynnwys a dyluniad y byrddau neu os ydych yn awyddus i helpu mewn unrhyw ffordd buasem yn falch o glywed gennych.
​