
Amdanom Ni
Mae'r Gymdeithas yn elusen gofrestredig wedi ei sefydlu yn 1969. Ein ardal o ddiddordeb, fel a welir yn y map isod, ydi dyffrynnoedd Conwy (i'r de o dref Conwy), Lledr, Llugwy a Macho.
​
Ein nod idi annog y safonau uchaf o bensaerniaeth a chynllunio, a chadw a gwella popeth sy' orau yn ein trefi, pentrefi a chefn gwlad.

Yr hyn 'rydym yn ei wneud
'Rydym yn monitro cynigion datblygu o fewn ein hardal o ddiddordeb.
​
'Rydym yn cefnogi datblygiadau sy'n gynaliadwy ac o ddyluniad da ac yn gwrthwynebu rhai fyddai'n niweidio cymeriad arbennig ein hardal.
​
'Rydym yn hyrwyddo safonau dylunio uchel drwy drefnu cynllun gwobrwyo sy'n cydnabod y cyfraniad sylweddol all datblygiadau a phrosiectau eu gwneud i'n hardal.
​
'Rydym hefyd yn cynnal sgyrsiau ar bynciau o ddiddordeb lleol a chyffredinol ac yn achlysurol 'rydym yn trefnu gwibdaith.
Ymunwch â ni
Y tâl aelodaeth blynyddol ydi:
​
Unigolyn £7.00
Teulu £10.50
Corfforaethol £12.00 (isafswm)
​
Mae'r Gymdeithas yn elusen gofrestredig ac yn croesawu datganiadau Rhodd Cymorth ac archebion banc sefydlog.
Mae'r tâl yn ddyledus ar 6ed Ebrill bob blwyddyn.
​
Os ydych yn dymuno ymaelodi neu adnewyddu drwy siec nodwch eich enw a'ch cyfeiriad ar gefn y siec a'i hanfon at ein Trysorydd. Mae'r manylion ar y ddolen gyswllt isod.